Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Hydref 2015
Amser: 09.30 -
12.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3269
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Graham AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jeff Cuthbert AC Keith Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Andrew Clark, Llywodraeth Cymru Berwyn Davies, Addysg Uwch Cymru Brwsel Iestyn Davies, ColegauCymru Yr Athro Richard Davies, Prifysgol Abertawe Siân Holleran, ColegauCymru Ruth Sinclair-Jones, British Council Huw Morris, Llywodraeth Cymru Michaela Renkes, Llywodraeth Cymru Jenny Scott, British Council Cymru Yr Athro David Shepherd, Prifysgol Bangor |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Rachel Jones (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Gwenda Thomas AC.
1.2 Datganodd Eluned Parrott AC fod ei gŵr yn gweithio i Sefydliad Addysg Uwch.
1.3 Datganodd Keith Davies AC fod ei fab yn astudio mewn Sefydliad Addysg Uwch.
2.1 Atebodd yr Athro Richard Davies, yr Athro David Shepherd a Berwyn Davies gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
3.1 Atebodd Iestyn Davies a Siân Holleran gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
3.2 Cynigiodd Iestyn Davies ddarparu gwybodaeth bellach ymhen rhai misoedd yn nodi sut mae Sefydliadau Addysg Bellach yn gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) i gefnogi’r sector adeiladau a pheirianneg.
4.1 Atebodd Jenny Scott a Ruth Sinclair-Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
5.1 Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Huw Morris, Andrew Clark a Michaela Renkes gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
5.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i ddarparu adborth ynghylch y fenter Cymru Fyd-eang yn dilyn ei chyfarfod cyntaf, y bwriedir ei chynnal fis Tachwedd.
5.3 Cynigiodd Huw Morris ysgrifennu at y Pwyllgor gan nodi rhan Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud cynigion am gyllid UE gan gynnwys nifer y sefydliadau addysg sydd wedi gwneud cynnig (gan gynnwys manylion yn ôl ardal) a’r ceisiadau hynny a wnaed ar y cyd, tynnwyd yn ôl neu a gyfunwyd.
6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft i’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a thechnoleg ar Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed.